Lee Byrne
Mae rhanbarth y Dreigiau wedi wedi arwyddo cefnwr Cymru Lee Byrne ac Aled Brew ar gyfer tymor nesaf, yn ôl adroddiadau.
Mewn hwb i rygbi rhanbarthol Cymru bydd y cefnwr Byrne yn arwyddo o Clermont ar ddiwedd y tymor, tra bod Brew yn dychwelyd o Biarritz i’r rhanbarth ble y gwnaeth ei enw fel asgellwr, yn ôl y South Wales Argus.
Mae’r rhanbarth eto i gadarnhau’r newyddion yn swyddogol.
Mae’r Dreigiau wedi llwyddo i gipio’r ddwy seren ryngwladol er gwaethaf diddordeb gan y Gleision – wrth i ansicrwydd barhau dros ddyfodol rhai o chwaraewyr rhanbarthol Cymru yn sgil y diffyg cytundeb rhwng y rhanbarthau a’r Undeb Rygbi.
Treuliodd Brew, sydd wedi chwarae naw gwaith dros Gymru, dair blynedd gyda’r Dreigiau cyn symud i Biarritz yn 2012. Ond nid yw’r tîm o Ffrainc wedi bod yn llwyddiannus yn y cyfnod hwnnw, ac maen nhw ar waelod cynghrair y Top 14 ar hyn o bryd.
Bydd Byrne yn dychwelyd i Gymru ar ôl tri thymor gyda Chlermont, a’r gŵr 33 oed bellach yn tynnu tuag at ddiwedd ei yrfa.
Cyrhaeddodd Clermont ffeinal Cwpan Heineken y llynedd, ac mae Byrne wedi bod yn parhau i chwarae yn rheolaidd dros y clwb hyd nes ei anaf diweddaraf yn erbyn y Scarlets yng Nghwpan Heineken ychydig wythnosau yn ôl.