Andrew Crofts
Mae hi’n ddechrau mis Ionawr unwaith eto, sydd yn golygu dau beth – bod Cip ar y Cymry yn ôl ar gyfer y flwyddyn newydd, a’i bod hi’n drydedd rownd Cwpan yr FA. Ac wrth i’r timau gael eu newid o gwmpas gan reolwyr, mae hyn yn golygu gorffwys i rai, a chyfle annisgwyl i eraill.
Buddugol oedd y ddau dîm Cymraeg ar ôl yn y gystadleuaeth, y ddau’n llwyddo i gipio buddugoliaethau annisgwyl o 2-1 oddi cartref yn erbyn gwrthwynebwyr anodd, a chefnwr chwith Cymreig yn chwarae i’r ddau dîm hefyd.
Neil Taylor gafodd y 90 munud i Abertawe wrth iddyn nhw gipio buddugoliaeth hwyr yn Old Trafford yn erbyn Man U, diolch i gôl hwyr gan Wilfried Bony, gyda’r Elyrch wedi gwneud chwe newid o’r tîm a gollodd i Man City ar ddydd Calan.
A Declan John oedd yn dechrau yn yr amddiffyn i Gaerdydd wrth iddyn nhw ddod yn ôl i ennill 2-1 yn Newcastle yng ngêm gyntaf Ole Gunnar Solskjaer fel rheolwr, diolch i goliau gan yr eilyddion Noone a Campbell.
Sgoriodd Andrew Crofts unig gôl y gêm gydag ergyd wych o ymyl o du allan i’r cwrt cosbi wrth i Brighton sicrhau eu lle yn y rownd nesaf wrth drechu Chris Gunter a Reading.
Rhwydodd Sam Vokes ei gôl gyntaf i Burnley ers mis Tachwedd gyda pheniad campus, ond yn anffodus ofer fu ei ymdrech wrth i’w dîm golli 4-3 i Southampton mewn gêm gyffrous tu hwnt.
Cipiodd Crystal Palace fuddugoliaeth i ffwrdd o gartref yn erbyn West Brom o 2-0, gyda Danny Gabbidon a Jonathan Williams yn dechrau’r gêm honno, dim ond yr ail waith i Williams ddechrau gêm dros ei glwb y tymor yma.
Cafodd Cymry Millwall brynhawn i’w anghofio fodd bynnag, er i Steve Morison greu eu hunig gôl wrth iddyn nhw gael cweir o 4-1 yn erbyn Southend. Cyfraniad gwahanol iawn a gafwyd gan ei gyd-ymosodwr Jermaine Easter, a welodd gerdyn coch cyn yr egwyl am sefyll ar un o’i wrthwynebwyr.
Prynhawn gwell gafodd Adam Henley a Blackburn, y cefnwr ifanc yn chwarae 90 munud eto wrth i’w dîm ddal cewri Man City i gêm gyfartal o 1-1, tra bod Andy King a David Cotterill hefyd wedi chwarae i’w clybiau.
Yn yr Alban roedd hi’n brynhawn ffrwythlon i Gymry Celtic, gydag Adam Matthews a Joe Ledley yn creu gôl yr un wrth i’r Bhoys drechu St Mirren 4-0.
Ond doedd hi ddim yn nos Wener lwyddiannus i Wolves wrth iddyn nhw golli 1-0 i Gillingham, gyda Sam Ricketts a Dave Edwards yn y tîm. Fe wrthododd Wayne Hennessey a chwarae, gyda’r clwb ddim yn datgelu’r rheswm am hynny ond dweud eu bod nhw’n “siomedig”.
Ni chwaraeodd rai o’r enwau mawr gan gynnwys Aaron Ramsey, Joe Allen, James Collins a Craig Bellamy oherwydd anafiadau – tra bod Gareth Bale a Real Madrid yn herio Celta Vigo heno.
Seren yr wythnos: Andrew Crofts – gôl wych arall, ei bumed o’r tymor, gan y chwaraewr canol cae i ennill y gêm.
Siom yr wythnos: Wayne Hennessey – gwrthod chwarae, ac mae nawr yn ymddangos yn fwy tebygol fyth y bydd yn gadael Wolves y mis yma.