Man U 1–2 Abertawe

Mae Abertawe ym mhedwaredd rownd y Cwpan FA wedi i gôl hwyr Wilfred Bony sicrhau buddugoliaeth iddynt yn erbyn Man U yn Old Trafford brynhawn Sul.

Rhoddodd Wayne Routledge fantais gynnar i’r Cymry cyn i Javier Hernández unioni i’r tîm cartref. Yna, wrth i Man U orffen y gêm gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch Fabio fe rwydodd Bony y gôl fuddugol i roi ei dîm yn y rownd nesaf.

Deuddeg munud oedd ar y cloc pan gododd Routledge y bêl dros Anders Lindegaard i agor y sgorio yn dilyn pas dreiddgar Álex Pozuelo.

Ond roedd y tîm cartref yn gyfartal o fewn pum munud diolch i foli Chicharito o groesiad Alex Buttner, ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Derbyniodd Fabio’r cerdyn coch am dacl beryglus ar José Cañas ddeg munud o ddiwedd y naw deg, a hynny bedwar munud yn unig wedi iddo ddod i’r cae fel eilydd.

A manteisiodd Abertawe’n llawn ar hynny wrth i Bony eu penio i’r rownd nesaf o groesiad Routledge yn y munud olaf.

Nid yw hi’n glir iawn pwy fydd gwrthwynebwyr yr Elyrch yn y gêm honno serch hynny gan nad yw Bristol Rovers a Crawley wedi cwblhau eu gêm ail rownd eto! Bydd enillydd y gêm honno, yna yn chwarae Birmingham yn y drydedd rownd, gydag Abertawe yn aros i wynebu’r tîm buddugol.

.

Man U

Tîm: Lindegaard, Smalling, Büttner, Fletcher, Ferdinand (Fabio 76′), Evans, Antonio Valencia (Januzaj 63′), Cleverley, Hernández, Welbeck, Kagawa

Gôl: Hernández 16’

Cerdyn Coch: Fabio 80’

.

Abertawe

Tîm: Tremmel, Tiendalli, Taylor, De Guzmán (Alvaro 85′), Chico, Amat, Pozuelo, Britton, Bony, Shelvey (Cañas 64′), Routledge

Goliau: Routledge 12’, Bony 90’

Cardiau Melyn: Amat 41’, Chico 82’, Tiendalli 83’

.

Torf: 73,190