Rali adeg Streic y Glowyr (Nick CCA 2.0)
Mae dogfennau cyfrinachol sydd wedi cael eu hagor i’r cyhoedd am y tro cynta’n dangos pa mor agos y daeth Llywodraeth Prydain i golli eu brwydr yn erbyn y glowyr yn 1984.

Mae cofnodion y Cabinet yn dangos bod y Prif Weinidog, Margaret Thatcher, wedi ystyried galw’r fyddin i helpu i symud bwyd a glo.

Mae yna gadarnhad hefyd fod gan y Bwrdd Glo gynlluniau i gau tua 70 o byllau – yn unol â chyhuddiad arweinydd Undeb y Glowyr, Arthur Scargill.

Argyfwng i’r Llywodraeth

Fe ddaeth argyfwng mwya’r Llywodraeth yn ystod haf 1984, rai misoedd ar ôl dechrau’r streic.

Roedd yna beryg o streic fawr ymhlith y docwyr hefyd ac fe fu gweinidogion yn cynllunio i ddefnyddio’r fyddin i atal yr argyfwng.

Fel y digwyddodd hi, fe ddaeth streic y docwyr i ben yn gymharol fuan.

Rhybudd gan Tebbit

Ar adeg arall, roedd yr Ysgrifennydd Diwydiant, Norman Tebbit, wedi rhybuddio na fyddai cyflenwadau glo’n parhau ymhellach na dechrau 1985.

Fe ddywedodd y byddai’r Undeb yn dod yn ymwybodol o hynny ac y byddai hynny’n eu gwneud yn fwy penderfynol.

Ond, yn ôl yr archif, fe gafodd Margaret Thatcher ei hun gyngor gwahanol ac fe wrthododd ildio tan i’r streic ddod i ben yn ffurfiol ddechrau Mawrth 1985.

‘Gwastraff amser’

Yn ôl cofnod arall, roedd cyfarfod rhwng y Bwrdd Glo a’r Undeb ym mis Mai wedi bod yn fethiant llwyr gyda’r naill ochr a’r llall yn gwrthod trafod.

Fe ddywedodd George Rees o Undeb y Glowyr yn ne Cymru fod y cyfarfod yn “wastraff amser”.