Y diweddara’ – mae pobol wedi cael eu symud o’u tai ar y ffrynt yn Y Bermo ac mae’r lein reilffordd rhwng Llanelli a Chaerfyrddin ynghau.
Yn Sir Gaerfyrddin mae rhwng 40 a 50 o garafanau o dan ddŵr mewn parc gwyliau ger Cydweli. Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Sir nad oes neb wedi eu hanafu.
Llifogydd ar yr A4042 yn Y Fenni.
Mae yna bedwar rhybudd am lifogydd difrifol a allai beryglu bywyd yng Nghymru.
Ac mae asiantaeth Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi mwy na hanner cant o rybuddion llai ar hyd y rhan fwya’ o’r arfordir, lle mae disgwyl glaw a llanw uchel iawn.
Fe fydd gwyntoedd cry’ hefyd, yn arbennig yn y Gogledd-orllewin, ac mae’r cwmnïau ynni wedi cael rhybudd gan Lywodraeth Prydain i fod yn gynt na thros y Nadolig wrth geisio adfer cyflenwadau trydan.
Rhybudd arall yw i bobol fod yn ofalus wrth gerdded ar lwybrau glan-môr a phromenadau.
Y rhybuddion difrifol
- Mae’r pedwar rhybudd mwya’ difrifol yn ardaloedd Talacre, y Maesglas a Bagillt yn Sir y Fflint, y Bermo ac aber afon Wysg yng Nghasnewydd.
- Yng Nghasnewydd, mae rhai pobol wedi cael eu symud o’u tai eisoes rhag ofn ac mae Heddlu Gogledd Cymru’n rhybuddio bod cerrig yn cael eu taflu i’r promenâd yng ngogledd Y Bermo.
- Mae’r 54 rhybudd llai difrifol yn cynnwys rhannau helaeth o’r arfordir, gyda’r pwyslais yn arbennig ar ardaloedd fel glannau Dyfrdwy, Borth yng Ngheredigion ac iseldiroedd Gwent lle gallai’r môr dorri tros amddiffynfeydd.
- Y disgwyl yw y bydd y llanw ucha’n cyrraedd Sir Benfro cyn hanner awr wedi saith fore Gwener gan symud draw i Went o fewn awr ac i fyny arfrodir y Gorllewin a draw i’r Gogledd-ddwyrain erbyn hanner dydd.
- Mae priffordd yr A487 wedi cau yn Niwgwl a Chyngor Sir Benfro’n rhybuddio y gallai’r ffordd gau yn Solfach hefyd. Mae cerbydau uchel yn cael eu hatal rhag croesi Pont Cleddau.
Gweddill gwledydd Prydain
Ar draws gwledydd Prydain, mae rhybuddion ar gyfer y rhan fwya’ o arfordiroedd y gorllewin ac fe fu pwyllgor argyfwng y Llywodraeth yn cyfarfod ddoe.
Mae dau berson wedi marw yn y tywydd garw yng Ne-orllewin Lloegr ac un dyn arall ar goll ar ôl diflannu mewn afon.