Ole Gunnar Solskjaer
Fe gyhoeddodd Caerdydd heddiw mai Ole Gunnar Solskjaer fydd rheolwr newydd y clwb, yn dilyn diswyddiad Malky Mackay.

Mae’r gŵr o Norwy wedi cael cytundeb 12 mis i’w adnewyddu bob blwyddyn gan y clwb – gydag addewid o rywfaint o arian i’w wario yn ystod y mis nesaf i geisio cryfhau’r garfan.

40 oed yn unig yw’r rheolwr newydd, oedd yn gyn-ymosodwr yn Man United am ddegawd, cyn mynd ymlaen i ennill dwy gynghrair ac un gwpan yn ei dair blynedd gyda Molde yn ei swydd gyntaf wrth y llyw.

A nawr fe fydd disgwyl iddo arwain Caerdydd i fyny tabl yr Uwch Gynghrair ac i ffwrdd o’r safleoedd disgyn rhwng nawr a diwedd y tymor ym mis Mai.

Mae’r clwb ar hyn o bryd yn 17fed yn y gynghrair, pwynt yn unig uwchben i’r safleoedd disgyn.

‘Angen cyfnod o sefydlogrwydd’

Mae Tim Hartley, ar ran Ymddiriedolaeth Cefnogwyr CPD Dinas Caerdydd wedi croesawu’r penodiad “Mae apwyntio Solskjaer fel rheolwr newydd Caerdydd yn gyffrous iawn.

“Mae’n bwysig nawr ei fod yn cael llonydd i ymgymryd â’r dasg anodd o gadw’r Adar Gleision yn yr Uwch Gynghrair ac rydym yn dymuno’n dda iddo.

“Ar ôl y misoedd diwethaf mae’r clwb angen cyfnod o sefydlogrwydd. Mae’n bwysig fod y cefnogwyr yn cefnogi’r dyn newydd a’r chwaraewyr wrth iddyn nhw geisio symud i fyny’r tabl.

“Yn dilyn apwyntiad Ole Gunnar, hyderwn y bydd Mr Tan [y perchennog] nawr yn cadw at ei air ac yn cwrdd â’r Ymddiriedolaeth a Chlwb y Cefnogwyr i drafod ein pryderon, a’i fod yn ceisio adeiladu pontydd gyda’r cefnogwyr.

“Mae’n hanfodol fod deialog rheolaidd yn digwydd rhwng Mr Tan, sefydliadau’r cefnogwyr a’r ffans yn gyffredinol.”

‘Denu enwau adnabyddus’

Dywedodd Dafydd Wyn Williams: “Mae’n dipyn o ‘coup’ i’r clwb dwi’n meddwl. Mae Solskjaer yn enw adnabyddus fydd yn debygol o ddenu enwau adnabyddus eraill i’r clwb, fel mae nifer o gyn-chwaraewyr Man U o dan Fergie wedi gwneud.

“Mae ganddyn nhw fwy o gyfle o aros lan nawr, dyw timau eraill heb ddod i arfer efo chwarae yn erbyn Caerdydd eto fel maen nhw wedi gydag Abertawe.

“Roedd hi’n anochel y byddai Mackay yn mynd, ar ôl iddo siarad allan yn erbyn Tan – roedd angen i un ohonyn nhw fynd.

“Sai’n siŵr os fyddan nhw’n medru aros lan, ond gydag ychydig mwy o lwc a mwy o goliau dylen nhw lwyddo i wneud. Bydden nhw wedi mynd lawr efo Mackay oherwydd y problemau gyda’r perchennog.

“Ond yr un bobl sydd dal fyny grisiau yn y clwb, felly yn yr hir dymor os nad ydyn nhw’n deall y gêm fe fydd y clwb yn dirywio.”

‘Dim profiad o reoli yn yr Uwch Gynghrair’

Ond mae  Deiniol Glyn wedi mynegi pryder am ei ddiffyg profiad o reoli yn yr Uwch Gynghrair: “Yn sicr fel chwaraewr odd e’n llwyddiannus ac wedi dysgu gyda’r gore o dan Alex Ferguson, a hefyd wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth reoli Molde.

“Ar un llaw mae Solskjaer yn apwyntiad cyffrous gan fod e’n rheolwr ifanc a ma’ gan lawer o bobl bethe da i’w ddweud amdano fel rheolwr.

“Ond ar y llaw arall does ganddo ddim profiad o reoli yn yr Uwch Gynghrair, a gyda Chaerdydd yn crafu am unrhyw fath o bwyntiau ar hyn o bryd falle bydde penodi rhywun gyda phrofiad o fod mewn ‘relegation scrap’ wedi bod yn well.

“Fi’n credu bydd Caerdydd yn chwarae pêl-droed pert o dan Solskjaer, ond hefyd yn credu bydde well gan gefnogwyr Caerdydd ennill pwyntiau gwaeth beth yw’r dull o chwarae, boed yn bert neu’n salw.

“Bydde Mackay dan unrhyw gadeirydd arall wedi cadw Caerdydd i fyny, ond oherwydd ei berthynas a Tan, yn anffodus nid oedd gobaith ganddo wneud y swydd i’w lawn botensial.

“Os gaiff Solskjaer yr arian y mae Tan wedi addo, a’i fod yn dod a chwaraewyr da i mewn gan gynnwys ymosodwr o safon wedyn, ie, fe wnawn nhw aros lan.