Simon Easterby
Ar ol colli i’r Gweilch ym Mharc y Scarlets, fe fydd y rhanbarth o’r gorllewin yn ceisio dileu’r atgof hynny i gipio’r Cwpan her South Wales Evening Post.

‘‘Ar ôl y siom o golli ar Wyl San Steffan i’r Gweilch, mae’r chwaraewyr wedi bod yn ymarfer yn galed.  Mae’r gefnogaeth gan y cefnogwyr dros adeg y Nadolig wedi bod yn rhagorol, gan ddangos eu cefnogaeth tuag at y rhanbarth.

“Mi fydd hi’n llawn yn y Liberty nos yfory ac yn ffordd arbennig i orffen y gyfres ddarbi,’’ meddai rheolwr y Scarlets, Simon Easterby.

‘Rhwystredig’

‘‘Bydd nos Wener yn achlysur arbennig, mae’n bwysig i ni ddechrau’r flwyddyn newydd yn dda.  Er cipio’r fuddugoliaeth yr wythnos diwethaf, roedd hi’n brynhawn rhwystredig.  Roedd yr ymdrech a’r ymrwymiad gan y chwaraewyr yn arbennig ond fe wnaethom gamgymeriadau sylfaenol ac yna dan bwysau yn syth,’’ meddai rheolwr y Gweilch, Steve Tandy.

Fe fydd y prop Duncan Jones yn gwneud ei 200 ymddangosiad i’r Gweilch, y chwaraewr cyntaf erioed i gyrraedd y ffigwr hwnnw.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Gareth Owen, Kristian Phillips, Nick Reynolds, Scott Williams, Frazier Climo, Rhys Priestland a Rhodri Williams.

Blaenwyr – Phil John, Emyr Phillips, Samson Lee, Jake Ball, George Earle, Josh Turnbull, John Barclay a Rob McCusker (Capten)

Eilyddion – Kirby Myhill, Rob Evans, Jacobie Adriaanse, Johan Snyman, Aaron Shingler, Gareth Davies, Aled Thomas a Jordan Williams.

Tîm y Gweilch

Olwyr – Sam Davies, Aisea Natoga, Ben John, Ashley Beck, Jeff Hassler Dan Biggar a Rhys Webb.

Blaenwyr – Duncan Jones, Richard Hibbard, Aaron Javis, Alun Wyn Jones (Capten), Ian Evans, Justin Tipuric, Sam Lewis a Joe Bearman.

Eilyddion – Scott Baldwin, Ryan Bevington, Adam Jones, James King, Morgan Allen, Tyler Ardron, Tom Habberfield a Richard Fussel.