Mae cefnogaeth i’r blaid Geidwadol ymhlith y gymuned hoyw wedi cynyddu’n sylweddol ers i David Cameron gefnogi priodasau i bobol o’r un rhyw.

Dyna ganlyniad pôl piniwn ar gyfer PinkNews.co.uk sy’n dweud fod tua 30% o’r rheiny holwyd bellach yn fodlon pleidleisio i’r Torïaid, o gymharu â 11% adeg yr etholiad cyffredinol yn 2010.

David Cameron hefyd oedd y dewis mwya’ poblogaidd i fod yn Brif Weinidog, gyda 46% yn dweud y bydden nhw’n dymuno ei gael ef yn Rhif 10, o gymharu â 37% tros arweinydd Llafur, Ed Miliband, a 17% tros arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg.

Mae PinkNews wedi bod yn cadw golwg ar fwriadau 724 o bleidleiswyr hoyw oddi ar etholiad 2010.