Mae dyddiad wedi’i bennu ar gyfer cwest i farwolaeth merch 15 oed a laddwyd dros chwe blynedd yn ol.

Mae cyfreithwyr teulu Arsema Dawit yn dweud eu bod nhw bellach wedi cael clywed mai Medi 1, 2014 fydd dyddiad agor yr achos, a bod disgwyl i’r cwest bara mis.

Fe gafodd Arsema Dawit ei thrywanu mwy na 30 o weithiau yn Waterloo, Llundain, gan ei chyn-gariad, Thomas Nugusse ym Mehefin 2008.

Roedd hi wedi cwyno wrth yr heddlu fod Thomas Nugusse wedi bygwth ei lladd, ac mae ei theulu wedi cyhuddo’r awdurdodau o’i “hanwybyddu”.