Mae’r swyddfa dywydd yn rhybuddio rhag tywydd garw dros y dyddiau nesa’, gan arwain at wyliau Nadolig stormus a gwlyb.

Mae rhybudd melyn wedi’i gyhoeddi ar gyfer y rhan helaetha’ o Gymru ar gyfer dydd Sul, yn ogystal a dydd Llun a Noswyl Nadolig (dydd Mawrth).

Mae hefyd rybuddion rhan gwyntoedd cryfion, hyd at 70 milltir yr awr, ddydd Llun a dydd Mawrth.

Mae corff Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw llygad ar y sefyllfa, ac yn diweddaru eu rhybuddion tywydd bob chwarter awr.

Glaw mawr yn y de a’r canolbarth

Mae rhybudd melyn mewn grym heddiw ar gyfer de-ddwyrain, de-orllewin a chanolbarth Cymru.

Gallai crynhoad y glaw sy’n syrthio achosi llifogydd mewn rhai ardaloedd, meddai’r Swyddfa Dywydd.

Gwasgedd isel

Fe fydd gwasgedd isel yn gorchuddio Cymru ddydd Llun a dydd Mawrth, gan arwain at wyntoedd cryfion a mwy o law trwm.