Mae llywodraeth geidwadol Sbaen wedi cymeradwyo cyfyngiadau llym ar erthylu.

Dan y drefn newydd, fydd hi ddim yn bosib i ferched roi terfyn ar eu beichiogaeth mewn achosion o drais neu pan fyddai bwrw ymlaen a geni’r babi yn peryglu iechyd y fam.

Roedd y llywodraeth flaenorol wedi cymeradwyo erthyliad cyn wythnos 14. Ond, dair blynedd yn ddiweddarach, mae’r Blaid Boblogaidd wedi ochri gyda’r Eglwys Gatholig ar faterion moesol.

Mae’r llywodraeth yn dweud bod angen gwarchod merched yn ogystal a phlant heb eu geni.