Theresa May, yr Ysgrifennydd Cartref
Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi dweud ei bod yn amau bod llawer mwy o gaethweision “wedi eu cuddio yng ngolwg pawb” ar hyd a lled Gwledydd Prydain.

Wrth ysgrifennu yn y Sunday Telegraph, dywedodd Theresa May bod taclo caethwasiaeth “yn flaenoriaeth bersonol” bellach iddi yn dilyn dod o hyd i dair dynes sy’n honni eu bod wedi cael eu caethiwo am 30 mlynedd.

“Mae rhywbeth yr oedd y rhan fwyaf ohonom yn credu ei fod yn perthyn bellach i’r llyfrau hanes ac i ganrif arall yn bresenoldeb cywilyddus, dychrynllyd yn y Brydain gyfoes,” meddai.

Ychwanegodd y bydd y Mesur Caethwasiaeth Cyfoes, fydd yn cynyddu’r ddedfryd fywaf am drafnidio pobl i garchar am oes a chreu swydd Comisiynydd Gwrth-Drafnidio y “cyntaf o’i fath yn Ewrop.”

Rhyddhau tair dynes

Fe wnaeth Heddlu’r Met ryddhau tair dynes o dŷ yn ne Llundain ar 25 Hydref ar ôl i un ohonyn nhw ffonio elusen i ddweud eu bod wedi yn cael eu caethiwo yno ers 30 mlynedd.

Cafodd dyn a dynes 67 oed, y naill o dras Indiaidd a’r llall o dras Tansaniaidd, eu harestio a’u rhyddhau ar fechniaeth.

Mae’r heddlu bellach wedi cyhoeddi bod y ddau wedi cael eu harestio yn ystod y 70au hefyd ond wnaethon nhw ddim cyhoeddi unrhyw fanylion ychwanegol.