Awyren C-17 (Llun cyhoeddus)
Mae awyren nwyddau anferth wedi gadael gwledydd Prydain am Ynysoedd y Philipinas gydag offer i helpu’r ymdrech achub yno.

Mae llwyth awyren C-17 yr RAF yn cynnwys dau Jac Codi Baw ac offer tebyg ac fe ddylai gyrraedd yr ynysoedd o fewn tua 24 awr.

Eisoes mae pobol gwledydd Prydain wedi cyfrannu £23 miliwn at y gronfa frys yn dilyn teiffŵn Haiya ac mae Llywodraeth Prydain wedi rhoi £20 miliwn.

‘Angen clirio’r ffyrdd’

Roedd hi’n angenrheidiol clirio ffyrdd er mwyn i gymorth gyrraedd ardaloedd anghysbell, meddai’r Gweinidog Cymorth Tramor, Justine Greening.

Roedd hi ym maes awyr Brize Norton ar gyfer lluniau cyhoeddusrwydd wrth i’r awyren adael ac mae geiriau ar ochr y ddau JCB yn dweud eu bod yn rhodd gan “bobol Prydain”.

Mae tîm o 12 o staff meddygol o wledydd Prydain eisoes wedi cyrraedd ac mae’r llong cario awyrennau, HMS Illustrious, ar ei ffordd yno hefyd.

Yn ôl ffigurau diweddara llywodraeth yr ynysoedd, mae o leia’ 3,500 yn far war ôl y teiffŵn.