William Hague - bachgen ysgol gyfun
Yr Ysgrifennydd Tramor yw’r gwleidydd Ceidwadol diweddara’ i fynegi pryder am y diffyg symud cymdeithasol ym Mhrydain yn ystod y tri degawd diwethaf.
Dywedodd William Hague, a oedd yn ddisgybl mewn ysgol gyfun, ei fod yn credu ei bod hi’n fwy anodd fyth i bobol o gefndiroedd cymdeithasol is godi i safleoedd uchel yn y gymdeithas – fel ei swydd ef.
Roedd sylwadau Hague yn dilyn rhybudd y cyn-Brif Weinidog Syr John Major fod goruchafiaeth pobol gyfoethogo ysgolion preifat yn y gymdeithas yn “syfrdanol’.
System addysg
Awgrymodd y Prif Weinidog David Cameron ddoe hefyd fod symud cymdeithasol yn cael ei ddal yn ôl oherwydd diffyg dyhead ymysg pobl y tu hwnt i’r dosbarth canol gwyn i anelu am swyddi uchel.
Rhoddodd William Hague y bai am hyn ar ddiffygion yn y system addysg, ond gan honni bod y Gweinidog Addysg bresennol, Michael Gove, yn gwneud gwahaniaeth.
“Mi es i i ysgol gyfun a dwi wedi dod yn Weinidog Tramor felly dydi popeth ddim yn mynd i bobol sydd wedi cael addysg breifat,” meddai Hague wrth raglen Today Radio 4.
“Beth sy’n fy ngwneud i’n anesmwyth, yw ei bod yn y tri degawd ers i mi fod yn yr ysgol gyfun, wedi mynd yn fwy anodd i rywun o ysgol gyfun fynd yn Ysgrifennydd Tramor, neu beth bynnag maen nhw’n anelu i fod. “
Cafodd mwy na hanner Cabinet y Llywodraeth presennol eu haddysg mewn ysgolion preifat.