Mae cwmni awyrennau wedi rhybuddio y gallai 500 o swyddi fod yn y fantol yn y rownd ddiweddara’ o dorri costau.
Fe fydd Prif Weithredwr newydd Flybe, y cwmni o Gaerwysg, yn edrych eto at y llwybrau hedfan a faint o awyrennau sydd yn yr awyr.
Y bwriad yw arbed £26m bob blwyddyn i’r cwmni o’r flwyddyn nesa’ ymlaen, a hynny ar ben cynlluniau eraill i arbed £40m eleni a £45m yn 2014-15.
“Fe fydd angen gwneud penderfyniadau anodd,” meddai datganiad gan y cwmni. “Yn anffodus, fe allai’r cynllun hwn olygu colli cymaint â 500 o swyddi.”
Mae’r cwmni eisoes wedi dechrau ymgynghori gydag undebau llafur a chynrychiolwyr staff.