Mae cynllun gwerth £45m ar y gweill i drwsio ac adnewyddu oddeutu 2,000 milltir o gamlesi ac afonydd yng Nghymru a Lloegr.

Mae prosiect pum mis yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, yn decehrau gyda chynllun £130,000 i drwsio Camden Lock ar y Regent Canol yng ngogledd Llundain.

Mae’r ymddiriedolaeth yn gweithio ar 100 o lifddorau a lociau yn y ddwy wlad.

Mae tua 33,000 o gychod yn defnyddio’r afonydd a’r camlesi bob blwyddyn, a thua 10 miliwn o bobol yn cerdded y llwybrau ar eu glannau.