Mae heddlu patrol yng Ngogledd Iwerddon wedi dod o hyd i fomiau pibell mewn cilfan yn Nutts Corner, County Antrim.

Fe gafodd swyddogion technegol y Fyddin eu galw i ddatgysylltu’r bomiau ac i wneud yr ardal yn ddiogel. Mae’r dyfeisiadau yn cael eu harchwilio’n fforensig.

Ddydd Gwener (Tachwedd 8), fe fu cyn-blismon a’i ferch 12 oed yn lwcus i beidio â marw neu gael eu hanafu’n ddifrifol.

Fe ddaeth y cyn-swyddog o hyd i ddyfais wedi’i gosod o dan ei gar wrth iddo baratoi i yrru ei ferch i’r ysgol yn nwyrain Belffast.

Mae gweriniaethwyr sy’n gwrthwynebu’r broses heddwch, wedi eu cyhuddo o osod y bom.