Mae dyn a saethodd ei wraig yn farw yn ei gwely yn yr ysbyty, yn wynebu oes o garchar.
Mae rheithgor yn Ohio, America, wedi’i gael yn euog o lofruddiaeth – er bod ei deulu a ffrindiau agos yn dweud mai arbed ei wraig ers 45 mlynedd rhag dioddefaint yr oedd o.
Mae John Wise yn dweud ei fod wedi torri’i galon wrth weld iechyd ei wraig, Barbara, yn dirywio, a’i bod bellach yn methu siarad.
Ond fe fydd yn rhaid i John Wise, 68, dreulio beth bynnag 23 blynedd dan glo. Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar Dachwedd 18.
Yn ôl tystiolaeth yr heddlu, fe gerddodd John Wise yn hamddenol i mewn i ystafell ei wraig yn yr ysbyty yn Awst 2012, a’i saethu. Bu hi farw y diwrnod canlynol.