Mae un o’r stormydd mwya’ i daro’r byd erioed wedi lladd mwy na 100 o bobol yn y Philippines.

Fe gafodd dros 100 hefyd eu hanafu yn ninas Tacloban ar Ynys Leyte, lle’r oedd canolbwynt Teiffwn Haiyan.

Fe gafodd tua 750,000 o bobol eu gorfodi i symud o’u cartrefi, ac mae’r difrod i dai ac adeiladau yn anferthol, wedi i wyntoedd o 147mya a hyrddiadau o 170mya daro.

Yn ôl y mesuriadau hynny, mae Haiyan wedi’i chategoreiddio yn gorwynt Categori 4, bron â bod yn Gategori 5.