Mae Gweinidog Amddiffyn Iran, Hossein Dehghan, wedi agor ffatri gynhyrchu taflegrau newydd sydd â’r bwriad o gryfhau’r modd y mae’r wlad yn ei hamddiffyn ei hun rhag ymosodiadau o’r awyr.

Fe fydd y ffatri yn cynhyrchu taflegrau Sayyad-2 a fydd yn gallu taro hofrenyddion, drôns a thargedau eraill yn yr awyr uwchben Iran.

Mae Hossein Dehghan yn dweud hefyd fod gwyddonwyr bellach wedi cwblhau eu hymchwil ar system daflegrau arall o’r enw Talash.

Mae gweinyddiaeth Tehran wedi bod yn ceisio sefydlu ei rhaglen filitaraidd, hunan-gynhaliol ei hun er 1992.