Stadiwm y Mileniwm - un enghraifft o'r buddsoddiad mewn chwaraeon yn y brifddinas
Ddoe, fe gynhaliwyd seremoni yn Senedd Ewrop i ddatgan yn ffurfiol mai Caerdydd fydd Prifddinas Chwaraeon Ewrop 2014.
Dyfarnwyd yr anrhydedd i Gaerdydd yn y seremoni ym Mrwsel erbron cynrychiolwyr holl brif ddinasoedd Ewrop.
Dywedodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Derrick Morgan: “Mae hon yn anrhydedd fawr i bobol Caerdydd, ac yn gadarnhad pellach fod y ddinas yn gyrchfan bwysig o ran chwaraeon.
“Mae’r anrhydedd yn cydnabod bod y ddinas yn un o brifddinasoedd allweddol Ewrop, gan baratoi’r ffordd ar gyfer cynnal mwy o ddigwyddiadau chwaraeon o bwysigrwydd byd-eang yn y dyfodol.”
Blwyddyn i’w chofio
Fe ddylai 2014 fod yn flwyddyn i’w chofio i Gaerdydd, gyda’r dathliadau yn dechrau ar Nos Galan. Cynhelir nifer fawr o ddigwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol yn y brifddinas, megis criced rhyngwladol, Rownd Derfynol Cwpan Heineken a Rownd Derfynol Uwch Gwpan UEFA, a chaiff cymunedau lleol eu hannog i gynnal digwyddiadau i hybu cyfranogiad mewn chwaraeon a rhoi cyfle i bawb fod yn rhan o’r flwyddyn bwysig hon i’r ddinas.
Un o’r uchafbwyntiau fydd Gemau Caerdydd, sef project blaenllaw sy’n cynnwys plant o holl ysgolion Caerdydd yn cystadlu mewn hyd at 20 o gampau gwahanol drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r teitl Prifddinas Chwaraeon Ewrop yn cydnabod ymrwymiad y ddinas i gynnig gweithgareddau chwaraeon fel swyddogaeth gymdeithasol, gan ddefnyddio chwaraeon i wella ansawdd bywyd a lles ei dinasyddion.
Ymhlith y dinasoedd fu’n Brifddinas Chwaraeon Ewrop yn y gorffennol mae Stockholm, Milan, Stuttgart, Warsaw, Valencia, Istanbul ac Antwerp.