Jonathan Dewhurst
Mae heddlu yn y Rhonddo yn apelio am gymorth y cyhoedd er mwyn dod o hyd i ddyn sydd ar goll.

Mae Jonathan Dewhurst, 31, yn byw yn Ystrad, ond does neb wedi ei weld ers iddo fod yng nghanol tre’ Tonypandy ddydd Mercher, Tachwedd 5.

Mae plismyn yn amau y gallai fod yn ardal Gwent, gan fod ganddo gysylltiadau â Chas-gwent.

Mae angen meddyginiaeth ddyddiol ar Jonathan Dewhurst, a dyna pam mae Heddlu De Cymru yn arbennig o bryderus yn ei gylch.

Dylai unrhyw un sydd wedi ei weld ers bore Iau ffonio’r rhif 101.