Mae’r gyfundrefn Llafur-Annibynnol sy’n rhedeg Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cael ei chyhuddo gan Blaid Cymru o fod yn rhy lwfr i drafod materion pwysig sy’n ymwneud â chyllid a pholisi yn gyhoeddus.
Tynnodd y Blaid sylw at y ffaith bod penderfyniadau allweddol ynglŷn â benthyciad i Ranbarth Rygbi y Scarlets a dyfodol meysydd chwarae’r cyngor wedi cael eu gwneud cyn y seminar yn Llanelli ym mis Hydref, lle’r oedd y broses ymgynghori ar y Gyllideb i fod i ddechrau.
“Mae penderfyniad y Cyngor o dan arweiniad Llafur i gael gwared â pharciau a chyfleusterau chwaraeon eraill, tra’n codi’r taliadau i ddefnyddio’r rhai fydd yn weddill yn sylweddol, yn fygythiad i ddyfodol nifer o glybiau chwaraeon llai,” meddai Plaid Cymru.
“Ar yr un pryd, cafodd y penderfyniad pwysig i dorri’r gyfradd llog ar fenthyciad o filiynau o bunnau i Ranbarth Scarlets Cyf, yn dilyn tair blynedd o rewi ad-daliadau, ei wneud gan y Bwrdd Gweithredol – heb ymgynghori â’r Cyngor Llawn, a gymeradwyodd y benthyciad yn y lle cyntaf yn 2007.
“Gan fod y penderfyniadau hyn wedi cael eu gwneud gan y Bwrdd Gweithredol wythnos cyn y Seminar i drafod opsiynau’r Gyllideb yn Theatr Ffwrnes, Llanelli, mae’n profi bod y broses ymgynghori yn ffars, ” meddai’r Cynghorydd Peter Hughes-Griffiths, arweinydd grŵp Plaid Cymru, sydd â 28 aelod yn Neuadd y Sir.
“Mae hefyd yn dangos pa mor ddiwerth yw sylwadau diweddar Arweinydd y Cyngor Kevin Madge am fod yn ‘agored a thryloyw’. ”
Cynnig
Cafodd Rhybudd Gynnig gan Blaid Cymru i roi cyfle i’r Cyngor Llawn drafod y materion hyn yn agored mewn cyfarfod ar Dachwedd 13 ei rwystro gan y Weinyddiaeth.
Dyma oedd y cynnig: Gan fod y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 14eg Hydref 2013 wedi penderfynu ar godiadau ariannol newydd ar gyfer Cyfleusterau Chwaraeon a hefyd ar Gytundeb Ariannol newydd gyda Parc y Scarlets cyn y Seminar ar Y Gyllideb yn Y Ffwrnes a chyn unrhyw drafodaethau na phenderfyniad swyddogol ynglŷn â chyllideb 2014-15, a chyn cyflwyno y ddau fater ger bron y Pwyllgorau Craffu perthnasol am argymhellion, dylai’r Cyngor Sir llawn gael cyfle i drafod a phenderfynu ar y codiadau ariannol a gynigir ar gyfer y Cyfleusterau Chwaraeon a’r newidiadau i Gytundeb Ariannol Parc y Scarlets.”
Rhy lwfr?
“Mae’n amlwg bod y gyfundrefn Llafur-Annibynnol sy’n rhedeg y cyngor yn rhy lwfr i ddadlau am y materion hyn gyda Phlaid Cymru yn llygad y cyhoedd,” meddai’r Cynghorydd Hughes-Griffiths.
“Maent yn gwneud eu gorau glas i sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud gan grŵp bach, gan roi cyn lleied â phosib o gyfle i’r 74 aelod etholedig i drafod materion allweddol yn y Cyngor Llawn.
“Mae’r fath ymddygiad yn sarhau’r broses ddemocrataidd. Rydym yn addo i bobl Sir Gâr y bydd Plaid Cymru yn pwyso’r galetach ac yn gyson ar y weinyddiaeth i roi’r gorau i redeg y cyngor yn y fath fodd gwarthus.”