Y Tywysog Siôr, a anwyd ym mis Gorffennaf, gyda'i rieni, William a Kate
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyflwyno tystysgrif i’r Tywysog William, er mwyn nodi plannu coeden yng Nghymru i’w fab cyntafanedig, Tywysog Siôr.
Mae prosiect Plannu! gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn un sy’n addo plannu coeden ar gyfer pob plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru.
Mae coeden wedi ei phlannu yn enw’r Tywysog Siôr er mwyn nodi’r amser y treuliodd ei rieni, William a Kate, yn byw ym Môn cyn iddo gael ei eni.
Ers i’r prosiect Plannu! gael ei sefydlu yn 2007, mae bron iawn i 200,000 o goed wedi’u plannu, gyda phob plentyn yn derbyn tystysgrif yn nodi yn lle mae ei goeden ef/hi.
“R’yn ni’n hynod falch o brosiect Plannu!,” meddai Carwyn Jones.
“Trwy blannu coed ar gyfer y genhedlaeth newydd hon, r’yn ni’n creu cysylltiad rhyngddyn nhw a’r amgylchedd ac yn creu coedlannau lleol, brodorol, ar yr un pryd.
“Er na chafodd y Tywysog Siôr ei eni yng Nghymru, r’yn ni wedi plannu coeden yn ei enw oherwydd yr amser y treuliodd ei rieni yn byw yng Nghymru, a’r ffaith y bydd yna wastad groeso iddo yma.”