Fe fydd gweddwon milwyr Afghanistan yn gorymdeithio ysgwydd ac ysgwydd gyda gweddwon yr Ail Ryfel Byd, Rhyfel Corea a Rhyfel y Gwlff heddiw, yn y gwasanaeth yn Llundain.
Fe fydd y gwasanaeth ar gyfer gweddwon yn digwydd wrth y Gofgolofn yn San Steffan, ac mae disgwyl i 80 o bobol fod yn rhan o’r gwasanaeth.
Mae’r gwasanaeth yn cael ei drefnu gan Gymdeithas Gweddwon Rhyfel, cymdeithas a gafodd ei sefydlu yn 1971 er mwyn ymgyrchu tros bensiwn di-dreth i’r gweddwon.
Fe fydd y gwasanaeth yn dechrau am 12.30 heddiw, ac yn para hanner awr.