Becks
Kylie Minogue a David Beckham oedd sêr noson wobrwyo’r cylchgrawn misol i ddynion, GQ.

Cafodd y seremoni, sy’n digwydd am y 15fed flwyddyn, ei chynnal yn Berlin neithiwr.

Enillodd y gantores bop o Awstralia, sydd gyda’i gwreiddiau yng ngogledd Cymru, y wobr ‘Gentlewoman of the Year’ a chael ei brolio gan Jose Redondo-Vega am fod yn “gwbl amserol ac yn ysbrydoliaeth i nifer o genedlaethau”.

Trwsiadus

David Beckham gafodd ei enwi fel Dyn Fwyaf Trwsiadus y Flwyddyn a Piers Morgan yn cipio’r wobr am Bersonoliaeth Teledu’r Flwyddyn.

Roedd enwogion fel Michael Douglas, y Cymro Rob Brydon a Justin Timberlake hefyd yn rhan o’r noson.