Mae hi wedi dod i’r amlwg bod y rapiwr Proffessor Green wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru ar ôl i’r heddlu ymateb i adroddiadau o ladrad.

Cafodd yr heddlu eu galw i leoliad yn ne Llundain am oddeutu 2:40 bore ddydd Sul gan ddod o hyd i gar Proffessor Green a oedd wedi bod mewn gwrthdrawiad â fan.

Anafwyd neb yn y digwyddiadau ond cafodd y rapiwr ei arestio a’i holi mewn gorsaf heddlu cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Scotland Yard: “Mae ymchwiliadau i’r lladrad a’r ddamwain yn parhau.”

Fe wnaeth y rapiwr, a briododd Millie Mackintosh o’r rhaglen realaeth Made in Chelsea yn ddiweddar,  ohirio taith yn gynharach eleni gan ddweud ei fod angen amser i orffen ei albwm newydd.

Enw iawn y seren bop yw Stephen Manderson.