Americanes sydd wedi ennill Gwobr Dylan Thomas 2013 am ei chasgliad straeon byrion Battleborn.

Fe wnaeth Claire Vaye Watkins o Califfornia guro chwech awdur ifanc arall i gipio’r wobr a £30,000.

Dywedodd y beirniaid fod gan yr awdur 29 mlwydd oed “ddawn wirioneddol” a’i bod hi’n gyffroes dod o hyd i “awdur straeon byrion rhyfeddol” yn yr un flwyddyn ag enillodd Alice Munro y wobr Nobel am lenyddiaeth.

Nevada

Mae’r casgliad o straeon wedi ei selio yn Nevada, ble cafodd Claire Vaye Watkins ei geni a’i magu, ac yn edrych ar myth y gorlleiwn gwyllt yn America.

Roedd panel y beirniaid yn cynnwys Peter Florence, Allison Pearson, Cerys Matthews, Carolyn Hitt, Kim Howells, Nicholas Wroe a Peter Stead.

Mae cyn-enillwyr y wobr yn cynnwys yr awdur o Vietman, Nam Le, Lucy Caldwell a Maggie Shipstead.