Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol (Intellectual Property Office) wedi cadarnhau i golwg360 na fydd dyfarniad yr achos rhwng ‘Eos’ a’r BBC yn cael ei gyhoeddi tan fis Rhagfyr.
Roedd disgwyl i’r cyhoeddiad ddod y mis yma ond dywedodd Catherine Worely, Pennaeth yr Achosion Tribiwnlys, na fydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi tan “ddiwedd Rhagfyr” a bod penodi dyddiad ym mis Tachwedd wedi bod yn “gynamserol”.
Nid oedd Dafydd Roberts, o’r asiantaeth hawliau cerddoriaeth ‘Eos’ yn ymwybodol fod dyddiad y dyfarniad wedi newid ond roedd achos ‘Eos’ wedi ei gyflwyno yn gryf ac yn gyflawn gan y bargyfreithiwr Gwion Lewis.
Yn ôl ‘Eos’, mae’r ffordd y mae’r BBC yn trin caneuon Cymraeg yn annheg gan beidio cydnabod gwerth y gerddoriaeth i’r gwasanaeth radio.
Dywedodd Dafydd Roberts y byddai’n rhaid ymgynghori gydag aelodau pwyllgor ‘Eos’ cyn penderfynu ymgyrchu ymhellach petai’r dyfarniad yn siomedig.