Betsan Powys golygydd Radio Cymru
Mae Radio Sir Gâr yn chwilio am gyflwynydd newydd, i weithio o stiwdios y cwmni yn Arberth, Sir Benfro.
Ddoe, roedd golwg360 yn adrodd fel y mae cyflwynydd sioe frecwast yr orsaf honno, Andrew ‘Tommo’ Thomas o Aberteifi yn cael ei enwi fel DJ amserlen newydd Radio Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n cyflwyno ‘Tommo at Breakfast’ rhwng 6 a 12 bob dydd ar 97.1FM yn y de-orllewin.
A heddiw, mae’r cwmni sy’n rhedeg gorsafoedd masnachol yn y de-orllewin wedi gosod yr hysbyseb ar ei wefan, yn galw ar bob “cyfathrebwr creadigol” i gysylltu a gwneud cais ar gyfer darlledu ar Radio Sir Gâr.
“Dydyn ni ddim yn chwilio am ‘ddim ond cyflwynydd radio arall’,” meddai hysbyseb Townd and Country Broadcasting, sy’n rhedeg gorsafoedd Radio Sir Gâr, Radio Sir Benfro, Radio Ceredigion a Scarlet FM.
“R’yn ni’n chwilio am rywun arbennig; personoliaeth greadigol ar yr awyr – ydych chi’n cofio cyflwynwyr felly?
“Mae Radio Sir Gâr a Scarlet FM yn ddwy orsaf sy’n arwain yn eu maes,” meddai wedyn. “Mae ein llwyddiant ni wedi’i seilio ar greu cysylltiad arbennig gyda’n cynulleidfa a gwneud gwahaniaeth i fywydau bob dydd pobol leol.
“Os ydych chi’n deall y feddylfryd hwnnw, ac os allwch chi ddarlledu radio lleol gwych, rydyn ni eisie clywed gennych.”
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydi dydd Gwener, Tachwedd 29. Mae disgwyl i Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru, gyhoeddi cyn diwedd Tachwedd beth yw ei gweledigaeth ar gyfer yr orsaf, a sut siâp fydd yna i’r amserlen newydd.