Gallai tua 50,00 o fusnesau yng Nghymru weld lleihad o £2,000 yn eu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) pan fydd y Lwfans Cyflogaeth newydd yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2014.

Ar draws gwledydd Prydain, bydd 1.25 miliwn o fusnesau ac elusenau yn elwa o’r lwfans newydd ar CYG y Cyflogwr. Yng Nghymru, bydd 18,000 yn talu dim CYG y Cyflogwr o gwbwl.

Fe fydd y lwfans yn golygu na fydd busnes sy’n cyflogi un person ar £22,400 yn talu unrhyw faint o CYG y Cyflogwr ar enillion y cyflogai hwnnw. Bydd busnes sy’n cyflogi pum oedolyn ar yr isafswm cyflog cenedlaethol yn gweld gostyngiad o dros 80% yn eu bil CYG y Cyflogwr.

Cefnogaeth

Dywedodd David Gauke, Ysgrifennydd y Siecr i’r Trysorlys:

“Mae busnesau bach yn hanfodol i’n economi ac rydym am wneud yr hyn a allwn i’w cefnogi.

“Bydd y Lwfans Cyflogaeth yn gostwng y gost o gyflogi staff newydd, gan gefnogi 50,000 o fusnesau yng Nghymru, a channoedd o filoedd yn fwy ar draws y DU, sydd ag uchelgais i dyfu gan ostwng y gost o gyflogi eu cyflogeion cyntaf neu dyfu eu gweithluoedd.”