Mae’r Swyddfa Dwyll Difrifol yn ymchwilio i weithredoedd dau gwmni diogelwch yn sgil honiadau eu bod wedi bod yn twyllo wrth godi arian ar y Llywodraeth.
Yr honiad yw fod cwmnïau G4S a Serco wedi bod yn codi arian am dagio troseddwyr, er fod rhai yn ôl yn y carchar, wedi mynd i wledydd tramor neu hyd yn oed wedi marw.
- Fe ddechreuodd yr ymchwilio gydag adroddiad gan gwmni cyfrifwyr Pricewaterhouse Cooper.
- Yna fe gafwyd awdit fforensig yn achos Serco, ond fe wrthododd G4S ganiatáu hynny.
- Fe gafodd gwybodaeth ei throsglwyddo i’r Swyddfa Dwyll Difrifol ac mae’r ddau gwmni bellach wedi cadarnhau fod ymchwiliad pellach ar droed.
Fe syrthiodd gwerth cyfrannau’r ddau gwmni o ganlyniad i’r newyddion sydd, y nachos G4S, yn dilyn y llanast a wnaeth o drefniadau diogelwch y Gêmau Olympaidd yn Llundain.
Fe alwodd Llafur am wahardd G4S rhag cynnig am gytundebau pellach, gan gynnwys gwerth mwy na £600 miliwn o gytundebau gwaith prawf sydd ar fin cael eu gosod.