Y cyhoeddiad wedi'i wneud gan Eric Pickles (Llun Llywodraeth)
Fe fydd cerrig palmant yn cael eu gosod i gofio 11 o Gymry a enillodd Groes Victoria yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe fyddan nhw – a 419 arall trwy wledydd Prydain – yn cael eu gosod adeg canmlwyddiant dechrau’r rhyfel yr haf nesa’, a hynny yn nhrefi cartref y milwyr.

Heddiw, fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain enwau enillwyr cystadleuaeth i ddylunio’r cofebau.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Cymunedau a Llywodraeth Leol, Eric Pickles, roedd hi’n bwysig fod y milwyr yn cael eu cofio yn eu cartrefi.

“Pobol gyffredin a wnaeth bethau anghyffredin oedden nhw,” meddai.