Ysbyty'r Brifysgol Caerdydd (Mick Lobb CCA 2.0)
Fe fydd undeb Unsain yn arwain rali i brotestio yn erbyn colli 342 o swyddi ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Maen nhw’n cyhuddo’r Bwrdd o weithredu’n wahanol i holl fyrddau eraill Cymru trwy benderfynu ar y toriadau heb drafod gyda’r Llywodraeth a’r undebau.

Y disgwyl yw y bydd undebau eraill yn ymuno yn y brotest ar risiau’r Senedd yn y Bae yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Dadl yr undeb

Yn ôl llefarydd ar ran Unsain, mae’r byrddau eraill i gyd yn trafod toriadau gyda Llywodraeth Cymru a gyda’r undebau a dydyn nhw ddim wedi gwneud cyhoeddiadau ynglŷn â swyddi.

Ar y llaw arall, medden nhw, mae Bwrdd Caerdydd a’r Fro wedi cyhoeddi rhybuddion ynglŷn a cholli’r bron 400 o swyddi a’r rheiny’n cynnwys rhai nyrsus, cynorthwywyr adran mamolaeth a staff cantin yn Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd.

“Does gyda ni ddim problemau diswyddo gyda’r byrddau eraill,” meddai’r llefarydd. “Maen nhw’n dal i fynd trwy’r broses drafod ac yn chwilio am ddewisiadau eraill.”

Doedd neb ar gael yn swyddfa’r wasg y Bwrdd i roi ymateb.