Lee Davies (Llun y Weinyddiaeth Amddiffyn)
Roedd milwr o Gymru a laddwyd yn Afghanistan wedi bod yn ceisio sgwrsio gyda’i lofruddion tebygol, yn ôl tystiolaeth mewn cwest.

Fe gafodd yr is-gorporal Lee Davies, 27 oed, o Aberteifi ei ladd gan ddau ddyn oedd wedi eu gwisgo mewn lifrai plismyn.

Roedden nhw wedi cael eu llun wedi eu tynnu gyda milwr arall cyn saethu hwnnw a Lee Davies ym mis Mai y llynedd.

Roedd y milwyr Prydeinig hefyd wedi bod yn ceisio codi sgwrs gyda’r Afghaniaid.

Y digwyddiad

Fe glywodd y cwest yn Swydd Rhydychen fod y ddau filwr yn rhan o grŵp a aeth i ganolfan yn nhalaith Helmand i siarad gyda phlismyn – roedden nhw wedi bod yn hyfforddi milwyr lleol.

Yn ôl aelod arall o’r Gwarchodlu Cymreig, Joshua Foley, roedd ganddyn nhw berthynas dda gyda’r Afghaniaid ond roedd nifer o wynebau newydd ymhlith y plismyn y diwrnod hwnnw.

“Fe glywais i ffrwydrad cyflym o ergydion ac wrth i fi edrych fe welais i’r ddau plismon Afghanaidd yn dal eu gynnau a’r Is-gorporal Davies yn gorwedd yn ôl.”

Ar y pryd, roedd ei benaethiaid wedi dweud fod Lee Davies yn filwr addawol iawn. Roedd wedi ymuno gyda’r fyddin yn 2009.