Ond nid ym Medwas? (Llun o wefan y cwmni)
Mae 132 o swyddi o dan fygythiad yn ffatri alwminiwm Sapa Profiles UK yng Nghaerffili.

Mae perchnogion y safle wedi cyhoeddi heddiw eu bod yn cynnal trafodaethau gyda gweithwyr ac undebau ynglŷn â chau’r ffatri sydd yn ardal Bedwas ers 1971.

Y lleihad yn y galw am nwyddau alwminiwm yw’r rheswm am ystyried cau’r ffatri ond dywedodd llefarydd dros y cwmni y bydden nhw’n trafod pob dewis i gadw’r safle yn agored.

Norwy

“Er bod newidiadau yn y farchnad alwminiwm, mae ein hymrwymiad i gynhyrchu nwyddau ym Mhrydain yn parhau i fod yn gryf,” meddai rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hydro o Norwy sy’n berchen ar y gwaith.

“Rydym yn credu bod lle ym Mhrydain i gynhyrchwr o safon uchel sy’n gallu darparu lefel uchel o wasanaeth i’r cwsmeriaid. Mae cyrraedd y nod hwn yn hanfodol ar gyfer ein strategaeth hir dymor,” meddai Alan Couturier.

Os bydd y ffatri yn cau, mae’r cwmni wedi dweud y bydden nhw’n cefnogi’r gweithwyr i ddod o hyd i  swyddi eraill.