Rebekah Brooks gyda'i bos Rupert Murdoch (Gwifren PA)
Fe glywodd llys fod cyn brifweithredwr News International, Rebekah Brooks, wedi dweud wrth ei chynorthwyydd personol am gael gwared ar saith blwch o lyfrau nodiadau.

Doedden nhw ddim wedi cael eu gweld wedyn, meddai’r erlyniad yn yr achos yn erbyn Rebekah Brooks a chyn-olygydd y News of the World, Andy Coulson,

‘Symud dogfennau’

Mae Rebekah Brooks, 45 oed, wedi ei chyhuddo o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder gyda Cheryl Carter – yr honiad yw eu bod wedi symud dogfennau a’u cadw rhag plismyn oedd yn ymchwilio i honiadau o hacio ffonau symudol.

Honnodd yr erlynydd, Andrew Eldis, QC fod y dogfennau’n cynnwys llyfrau nodiadau Brooks rhwng 1995 a 2007 ac nad oedden wedi cael eu gweld ers hynny.

“Rydym yn awgrymu fod hyn yn dystiolaeth fod Mrs Brooks yn awyddus i gael gwared â deunydd oedd yn ymwneud â’i gweithgareddau pan oedd hi’n olygydd  y News of The World a’r Sun.”

Y cyhuddiadau

Mae Brooks, ac Andrew Coulson, 45 oed – sydd hefyd yn gyn swyddog i’r wasg i Brif Weinidog Prydain, David Cameron – wedi eu cyhuddo o gynllwynio i wrando ar negeseuon ffôn.

Maen nhw hefyd wedi eu cyhuddo o gynllwynio gyda chyn-bennaeth newyddion y News of the World, Ian Edmondson, 44,cyn-golygydd rheolwr y papur, Stuart Kuttner, 73, ac eraill i gael mynediad anghyfreithlon i negeseuon ffôn rhwng 3 Hydref 2000 a 9 Awst 2006.

Mae Rebekah Brooks hefyd wedi ei chyhuddo o gynllwynio gyda phobol eraill i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Mae’r cyhuddiad hwn yn gysylltiedig â thalu i swyddogion cyhoeddus am wybodaeth ac mae hi hefyd yn wynebu cyhuddiad arall o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae gŵr Rebekah Brooks, ei gŵr Charles Brooks, a chyn-bennaeth diogelwch News International, Mark Hanna, hefyd wedi eu cyhuddo o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae Coulson hefyd wedi ei gyhuddo o gynllwynio gyda chyn-olygydd brenhinol y News of the World, Clive Goodman, 56, a phobol eraill anhysbys i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Mae’r achos yn parhau.