Y ganolfan adeg yr ymosodiad (CCA 3.0 Anne Knight)
Mae pedwar o bobol wedi eu cyhuddo o droseddau sy’n gysylltiedig â’r ymosodiad terfysgol ar ganolfan siopa yn Kenya pan gafodd 67 o bobol eu lladd.
Mae’r pedwar dyn o Somalia yn wynebu cyhuddiadau sy’n cynnwys rhoi lloches i ffoadur a chofnodi’n anghyfreithlon eu bod yn hanu o Kenya.
Mae Mohammed Ahmed Abdi, Liban Abdulla Omar, Hussein Hassan Mustafah ac Aden Abdikadir Ibrahim dan glo tan y bydd gwrandawiad llys yr wythnos nesaf.
Mae awdurdodau Kenya wedi holi dwsinau o bobol ers y cyrch a barodd bedwar diwrnod ym mis Medi.
Mae’r grŵp eithafol Somalia, al-Shabab, wedi cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiad.