Mae ‘r heddlu’n chwilio am ddau ddyn o wledydd Prydain ar ol cyrch ar gaffi yn yr Iseldiroedd.
Fe aeth swyddogion o’r Asiantaeth Droseddau Genedlaethol (NCA) a heddlu’r Iseldiroedd i mewn i’r caffi yn ninas Rotterdam fel rhan o gyfres o gyrchoedd yn y Deyrnas Unedig a’r Isalmaen.
Mae’r heddlu wedi enwi Robert Stephen Gerrard, 50, a Michael Paul Moogan, 27, y ddau o Lerpwl, fel y bobol maen nhw’n chwilio amdanyn nhw ar amheuaeth o smyglo’r cyffur cocên i wledydd Prydain.
Fe ddaeth swyddogion o hyd i ddau wn llaw, dros 100 o ffonau symudol, gwerth 300,000 ewro mewn arian parod, peiriant cyfri’ arian, sganiwr radio, ynghyd a watsys drud yn y siop goffi yn Rotterdam.