Mae dyn 91 mlwydd oed wedi marw yn yr ysbyty ychydig wythnosau wedi iddo ddiodde’ ymosodiad milain yn ei gartre’.

Roedd Sydney Pavier yn byw ar ei ben ei hun, ond fe ddaeth aelodau o’i deulu o hyd iddo gydag anafiadau i’w ben pan alwon  nhw draw i’w weld ar Fedi 16.

Roedd y cartre’ yn Gordon Street, Leamington, Swydd Warwick, wedi cael ei racsio, ac roedd y drws ffrynt yn agored.

Fe gafodd Mr Pavier driniaeth yn uned gofal dwys Ysbyty Prifysgol Coventry a Swydd Warwick, ond wnaeth o ddim gwella o’i anafiadau. Bu farw ddydd Llun (Hydref 28).

Mae dyn 38 oed wedi ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o ladrata ac o achosi niwed corfforol difrifol. Mae Scott Melville yn cael ei gadw yn y ddalfa nes y bydd yn mynd gerbron llys y goron.