Jeremy Hunt
Mae’r Llys Apêl wedi dyfarnu nad oes gan Weinidog Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yr hawl i dorri gwasanaethau yn Ysbyty Lewisham yn Llundain.

Roedd Jeremy Hunt am israddio gwasanaethau damwain ac achosion brys a gwasanaethau mamolaeth yn yr ysbyty.

Ond fe benderfynodd y tri barnwr wrthod apêl y llywodraeth gan gefnogi dyfarniad Mr Ustus Silbert ym mis Gorffennaf fod cynlluniau Jeremy Hunt yn “anghyfreithlon”.

Credir bod y dyfarniad yn ergyd i gynlluniau’r Ysgrifennydd Iechyd am fod yr achos wedi bod yn brawf cyfreithiol i ddull gweithredu newydd y llywodraeth i ddelio â sefydliadau’r gwasanaeth iechyd sy’n methu.