Mae cynghorwyr Sir Ddinbych wedi pleidleisio’n erbyn cynllun i uno dwy ysgol a chreu un ysgol aml-ffydd newydd ar ddau safle.
Roedd cannoedd o bobol wedi gwrthwynebu’r argymhelliad i gau Ysgol St Ffraid ar gyrion tre’ Dinbych ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edwards Jones yn Y Rhyl.
Yn hytrach, mae cynghorwyr wedi pleidleisio tros weithio gyda’r eglwys Babyddol a’r Eglwys yng Nghymru er mwyn sefydlu un ysgol ffydd newydd o fewn y sir.
Mae’r cynllun newydd yn golygu y bydd y ddwy ysgol bresennol yn cau yn 2018.