Cwch y 'Yellow Duckmarine' yn Noc Albert, Lerpwl
Cafodd damweiniau cychod twristiaidd yn Lerpwl a Llundain yn ystod y misoedd diwethaf eu hachosi gan sbwng oedd i fod i’w helpu i arnofio.
Dyna gasgliad adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw.
Fe fu’n rhaid i 33 o bobl gael eu hachub o’r dŵr yn Noc Albert, Lerpwl, ym mis Mehefin wedi i’r ‘Yellow Duckmarine’ a oedd yn cludo twristiaid ar daith yn y Doc, suddo.
A bu’n rhaid i deithwyr ar gwch tebyg ar yr afon Tafwys yn Llundain gael eu hachub ar ôl i dân ddechrau ar y llong honno ym mis Medi.
Dim digon o sbwng
Mae adroddiad gan Gangen Archwilio Damweiniau Morol y DU (MAIB) yn dod i’r casgliad nad oedd digon o sbwng yn y cwch yn Lerpwl, a bod y sbwng ar y cwch yn Llundain wedi ei bacio’n rhy dynn gan achosi tân drwy ffrithiant.
Mae MAIB wedi argymell na ddylai cychod o’r fath gael eu defnyddio tan i safonau gael eu diogelu.