Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf
Bydd cwmnïau Tsieineaidd yn cael buddsoddi mewn gorsafoedd ynni niwclear newydd ym Mhrydain, cyhoeddodd George Osborne heddiw.
Daeth cyhoeddiad y Canghellor wrth iddo ddirwyn ei ymweliad a’r wlad i ben.
Bydd memorandwm a gafodd ei lofnodi yn Beijing yn gynharach yr wythnos hon yn sail i fuddsoddiadau gan gwmnïau o Tsieina.
Gallai’r cytundeb cyntaf gyda chwmni Tsieineaidd gael ei arwyddo mor gynnar â’r wythnos nesaf ar gyfer atomfa newydd Hinkley C yng Ngwlad yr Haf sydd 15 milltir o arfordir de Cymru.
Wrth siarad mewn gorsaf bŵer niwclear yn ne Tsieina, dywedodd George Osborne: “Mae heddiw yn enghraifft arall o’r cam mawr nesaf yn y berthynas rhwng Prydain a Tsieina. Fe all arwain at fwy o fuddsoddiad a swyddi ym Mhrydain a phrisiau ynni llai i ddefnyddwyr.”
Meddai Ysgrifennydd Ynni Ed Davey : “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a fydd yn cryfhau ein perthynas gyda Tsieina mewn ffordd a fydd o fudd i’r ddwy wlad.
“Mae buddsoddiad gan gwmnïau Tsieineaidd yn y farchnad drydan yn y DU i’w groesawu, ar yr amod y gallant fodloni ein gofynion rheoleiddiol a diogelwch llym.”