Ymgyrch Foxtrot
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio 46 o bobol dros y tair wythnos ddiwethaf mewn cysylltiad â mwy na 200 o droseddau’n ymwneud a chyffuriau.

Cafodd y 46 – 40 o ddynion, 4 dynes a 2 berson ifanc – eu harestio yn dilyn ymgyrch gudd dros gyfnod o chwe mis yn ardal y Rhath, Cathays, canol y ddinas, Glan-yr-Afon, a Grangetown.

Bu’r heddlu’n targedu rhai sy’n dosbarthu cyffuriau dosbarth A fel heroin a chocên.

Cafodd yr ardaloedd yma eu targedu yn dilyn gwybodaeth gan y gymuned leol yn dilyn pryder ynglŷn ag achosion o werthu cyffuriau yno.

Mae Ymgyrch Foxtrot yn gweithio ar y cyd gyda Chyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro er mwyn rhoi cefnogaeth i ddefnyddwyr cyffuriau, glanhau mannau cyhoeddus lle mae cyffuriau wedi cael eu gwerthu, a sicrhau bod y rhai sy’n cyflenwi’r cyffuriau yn cael eu cadw dan glo.

Tarfu ar y cyflenwad cyffuriau

Dywedodd Conrad Eydmann, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae Ymgyrch Foxtrot wedi tarfu ar y cyflenwad cyson o gyffuriau dosbarth A yng Nghaerdydd a’r gobaith yw y bydd yn annog pobol sy’n defnyddio cyffuriau i gael triniaeth.

“Trwy gydol yr ymgyrch, mae’r gwasanaethau cefnogol wedi bod yn flaengar iawn wrth gynnig cymorth a bydd hyn yn parhau.

“Fel gwasanaeth rydym yn gobeithio rhoi cymorth i bobol i adennill rheolaeth yn eu bywydau a’u hysgogi i daclo eu problemau.”