Ed Miliband
Fe fyddai Llywodraeth Lafur yn codi treth ar gwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog er mwyn ariannu undebau credyd, sy’n cynnig benthyciadau am gostau llawer is, meddai Arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband heddiw.
Nid yw’r blaid wedi cyhoeddi faint o dreth a fyddai’n cael ei chodi ar elw cwmnïau fel Wonga ond y gobaith yw dyblu’r £13miliwn sy’n cael ei roi ar hyn o bryd gan Lywodraeth Prydain i ariannu undebau credyd.
Mae’r cwmnïau benthyg, sy’n cynnig benthyciadau tymor byr i bobol sy’n brin o arian nes daw eu cyflog nesaf, wedi cael eu beirniadu am godi cyfraddau llog uchel ar bobol fregus. Gall y cyfraddau gyrraedd 5,000% y flwyddyn.
Yn ôl y Blaid Lafur, mae teuluoedd Prydain yn wynebu’r argyfwng ariannol gwaethaf ers 1870. Mae hyn o ganlyniad i gynnydd mewn chwyddiant ond nid mewn cyflogau. Dywedodd Ed Miliband fod hyn yn creu “argyfwng dyledion personol” i nifer o deuluoedd.
“Oherwydd hyn, mae marchnad y cwmnïau benthyg wedi dyblu mewn pedair blynedd. Mae bron i draean o’r benthyciadau ym Mhrydain yn cael eu defnyddio i dalu am gostau trydan a dŵr.
“Mae gormod o deuluoedd yn gorfod gwneud hyn ar ddiwedd y mis,” meddai Ed Miliband.