Ysbyty Glan Clwyd
Gofal gwael a arweiniodd at farwolaeth dyn o’r Rhyl yn Ysbyty Glan Clwyd, yn ôl adroddiad gan Ombwdsmon Cymru.

Roedd teulu Carl Nolan, 30, wedi gwneud cwyn i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ynglŷn â’r driniaeth a gafodd am gyflwr sirosis yr iau rhwng Tachwedd 2000 hyd at ei farwolaeth ym mis Medi 2010.

Roedd Carl Nolan, sy’n cael ei adnabod fel Mr X yn yr adroddiad, wedi cael ei eni gyda chyflwr sirosis yr iau a chafodd diagnosis ei wneud yn 2000 – ond ni chafodd ef na’i deulu wybod am ei gyflwr ar y pryd.

Er i apwyntiad gael ei wneud iddo fel claf allanol yn 2001, ni chafodd Carl Nolan wybod yn ôl yr adroddiad.

Cafodd ei daro’n wael eto yn 2008 ac er iddo gael triniaeth, ni chafodd ymchwiliadau i geisio darganfod yr achos eu cwblhau.

Fe ofynnodd am farn meddyg arall a dyna pryd y cafodd wybod ei fod wedi ei eni gyda sirosis.

Mae’r adroddiad wedi methu darganfod pam na chafodd Carl Nolan wybod am ei gyflwr nac wedi derbyn cyngor ynglyn a gwneud newidiadau i’w fywyd i geisio rheoli’r cyflwr.

Yn 2010, aeth i’r ysbyty sawl gwaith ar ôl cael ei daro’n wael ac roedd profion gwaed yn dangos bod ei iau yn methu. Ond cafodd ei anfon adre, cyn dychwelyd yn ddiweddarach gyda haint difrifol. Bu farw saith wythnos yn ddiweddarach.

Dywed yr adroddiad petai Carl Nolan wedi cael triniaeth dridiau ynghynt, fe ddylai fod wedi gwella o’r haint a chael cyfle am drawsblaniad yr iau.

Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn derbyn yr adroddiad ac yn ymateb i argymhellion yr Ombwdsmon.

Mae’r ombwdsmon wedi argymell bod y  bwrdd iechyd yn talu iawndal o £5,000 i’r teulu i gydnabod methiannau yn y gofal a’r driniaeth, a £500 arall am ymdrin â chwynion y teulu yn wael.

Dywed yr adroddiad bod y teulu am i newidiadau gael eu gwneud er mwyn sicrhau nad yw’r “camgymeriadau’n cael eu gwneud eto.”