Mae gweithwyr post wedi pleidleisio o blaid cynnal streic un diwrnod ynglŷn â materion sy’n codi o ganlyniad i breifateiddio’r Post Brenhinol.
Fe fydd aelodau o Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) yn cynnal streic ar 4 Tachwedd ar ôl i 78% o’r aelodau gefnogi gweithredu’n ddiwydiannol.
Dywed yr undeb y bydd yn ystyried camau pellach a bydd pleidlais newydd yn cael ei gynnal ynglŷn â boicotio post gan gystadleuwyr.
Dywedodd dirprwy ysgrifennydd cyffredinol y CWU Dave Ward eu bod nhw wedi rhoi pythefnos i’r cwmni i ddod i gytundeb.
Mae’r undeb yn galw am gytundeb a fydd yn diogelu swyddi, cyflogau a phensiynau’r gweithwyr post yn ogystal â rhoi sicrhad ynglŷn â sut fydd Grŵp y Post Brenhinol yn gweithredu fel cwmni preifat.