Lesley Griffiths
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd cynghorau lleol yn derbyn 3.5% yn llai o gyllid y flwyddyn nesaf o’i gymharu ag eleni.

Cyhoeddodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes, y byddai awdurdodau lleol yn derbyn £4.26 biliwn y flwyddyn nesaf.

Cynghorau Ceredigion, Powys a Sir Ddinbych sy’n derbyn y toriadau mwyaf o 4.6% yr un a Chasnewydd yn derbyn y toriad lleiaf o 1.2%.

Bydd Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy a Bro Morgannwg hefyd yn colli rhwng 4% a 4.5% o gyllid tra bydd Conwy, Sir y Fflint, Wrecsam, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell Nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Blaenau Gwent a Thorfaen yn gweld toriad o rhwng 3% a 4% o’u cyllid.

Bydd cynghorau Caerdydd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr yn colli rhwng 2% a 3% o arian o’i gymharu a llynedd.

Wrth gyhoeddi manylion y cyllid, roedd y Gweinidog yn cydnabod bod hwn yn “setliad eithriadol o heriol” i lywodraeth leol Cymru, ond dywedodd ei fod yn ganlyniad cytbwys o ystyried bod£1.7 biliwn wedi ei dorri oddi ar gyllideb Llywodraeth Cymru rhwng 2010/11 a 2015/16.

‘Mwy o hyblygrwydd’

Ond cyhoeddodd y Gweinidog nifer o gamau er mwyn ei gwneud hi’n haws i lywodraethau lleol reoli eu harian.

Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau nad yw’r un awdurdod lleol yn wynebu gostyngiad gormodol o gyllid o’i gymharu â’r flwyddyn gynt, a throsglwyddo gwerth dros £30 miliwn o grantiau i roi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol reoli eu hadnoddau.

Mae gwerth £244 miliwn hefyd yn cael ei roi ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, ar ôl i Lywodraeth Glymblaid y DU ddiddymu Budd-dal y Dreth Gyngor a bydd cynlluniau yn cael eu gweithredu i ddarparu amddiffyniad o 1% i gyllid ysgolion.

‘Setliad eithriadol o heriol’

Dywedodd Lesley Griffiths: “Rwy’n cydnabod bod hwn yn setliad eithriadol o heriol i lywodraeth leol Cymru, sy’n dangos ein bod yn gweithredu mewn cyd-destun ariannol mwy heriol nag erioed.

“Mae pwysau cyson Llywodraeth Glymblaid y DU ar ein cyllideb wedi’n gorfodi i wneud dewisiadau anodd. Ond er gwaethaf hynny, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi llwyddo i sicrhau gwell canlyniad i awdurdodau lleol Cymru o’u cymharu ag awdurdodau lleol Lloegr, ac mae hynny’n dal yn wir am y setliad hwn.”

Ychwanegodd y Gweinidog: “Rwyf wedi gweithio’n galed i sicrhau’r canlyniad gorau posib i lywodraeth leol, o ystyried y cyfyngiadau ariannol sy’n ein hwynebu.”

Treth gyngor

Er y toriadau, mae llefarydd Plaid Cymru ar Lywodraeth Leol, Rhodri Glyn Thomas AC, wedi croesawu bargen a gytunwyd heddiw ar arian ychwanegol i helpu pobl gyda’u  treth gyngor.

Meddai Rhodri Glyn Thomas AC: “Arweiniais ymgyrch ar hyn y  llynedd a gwnaeth y Gweinidog Llafur blaenorol dro pedol.

“Fodd bynnag, mae hynny’n perthyn i’r gorffennol ac y mae’r Gweinidog presennol wedi cyflwyno ateb eleni, ac y mae hynny i’w groesawu. Mae ei hymrwymiad hi i adolygiad tymor hir o fudd-dal treth gyngor yng Nghymru yn gadarnhaol, a bydd yn galluogi cynllunio system o gefnogi treth gyngor yng Nghymru ar gyfer y blynyddoedd i ddod.”

‘Heriol’

Meddai llefarydd y Ceidwadwyr ar lywodraeth leol,  Janet Finch-Saunders AC, bod y setliad yn “heriol” i’r  cynghorau lleol.

“Yr her i awdurdodau lleol yw gwrthsefyll yr opsiynau hawdd o godi’r dreth gyngor  neu dorri gwasanaethau rheng flaen,” meddai.

“Byddai’n syniad da i gynghorau ddilyn esiampl Cyngor Sir Fynwy, dan arweiniad y cynghorwyr Ceidwadol, wrth gyhoeddi eu gwariant ar-lein oherwydd tryloywder yw’r ffordd orau o gael gwared ar wastraff.”

‘Angen diogelu gwasanaethau cyhoeddus’

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol undeb y TUC yng  Nghymru bod y cyhoeddiad yn dangos pa mor anodd mae Cymru’n ei chael hi oherwydd y toriadau diweddaraf gan Lywodraeth y DU ond pwysleisiodd nad preifateiddio gwasanaethau yw’r ffordd ymlaen.

“”Mae hwn yn argyfwng a gafodd ei greu yn San Steffan ond hefyd yn un mae angen i bob lefel o lywodraeth Cymru a’r gymdeithas ddinesig ddelio ag o. Mae angen i ni gynllunio ar unwaith i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y dyfodol.

“Mae gan Lywodraeth Cymru’r awydd i gyflwyno ethos gwasanaeth cyhoeddus i  Gymru – hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn. Mae gennym y cyfle i gyflawni hynny mewn partneriaeth a bydd TUC Cymru yn chwarae ein rhan yn llawn.”