Is Gorporal James Brynin
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi enw’r milwr gafodd ei ladd yn Afghanistan ddoe.

Roedd yr Is Gorporal James Brynin, 22, yn aelod o 14eg Gatrawd y Signalau sydd a’u gwersyll ym Mreudeth yn Sir Benfro.

Cafodd James Brynin, oedd  yn dod o Shoreham-by-Sea, yng Ngorllewin Sussex, ei saethu’n farw ddoe pan ymosodwyr ar ei batrôl yn ardal Kakaran, yn Lashkar Gah.

Er iddo gael triniaeth feddygol yn syth, bu farw o’i anafiadau yn y fan a’r lle, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae 445 o filwyr o’r DU wedi cael eu lladd yn Afghanistan ers mis Hydref 2001.